Penmynydd

Croeso / Welcome

Mae Penmynydd wedi ei leoli ar y ffordd B5420 rhwng Porthaethwy a Llangefni ym Môn. Mae’r Cyngor yn gwasanaethu’r pentref a phentref Star gerllaw. Mae Penmynydd yn nodedig am ei Elusendai, Eglwys Sant Gredifael a’r cyn rheithordy Fictoraidd hyfryd, Neuadd Lwyd, yn ogystal â’r golygfeydd gwych o Fôn ac Eryri. Ym Mhenmynydd mae Plas Penmynydd, cartref y Tuduriaid, man geni llinach y Tuduriaid. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, un o drigolion Penmynydd oedd Tudur ap Goronwy. Roedd ganddo bum mab, un ohonynt a’r enw Maredudd (tad Owen Tudor – a’i enw wedi ei Seisnigeiddio o’r enw Cymraeg Owain ap Maredudd ap Tudur) a ymunodd â byddin Harri V ac wedi hynny sefydlu ei hun yn y llys. Ar ôl i Harri’r V farw, priododd ei weddw Owen Tudor yn ddirgel o gwmpas 1429 a bu iddynt dri mab. Eu hŵyr, Henry Tudor, hawliodd goron Lloegr yn 1485 ar Faes Bosworth gan gychwyn teyrnasiad y Tuduriaid.

Cymuned fechan ond un clos iawn yw Penmynydd a Star, gyda phoblogaeth o ychydig dan 500. Er hynny, mae’n gymuned fywiog a gweithgar. Mae’r Cyngor yn ymdrechu i wasanaethu’r gymuned trwy wella adnoddau a chyfleoedd i’r boblogaeth wasgaredig gyfarfod a ffynnu. Llwyddodd y Cyngor i achub y neuadd (hen ysgol Penmynydd) pan oedd bwriad i’w chau a’i gwerthu. Bellach, mae Canolfan Penmynydd yn agored ar ei newydd wedd gyda’r adnoddau’n cael eu gwella’n gyson. Gosodwyd ynddi gegin newydd yn ddiweddar. Sefydlwyd Pwyllgor annibynnol i redeg y Ganolfan a bellach mae’r defnydd yn cynyddu. Cynhelir cyfarfodydd Cymdeithas Penmynydd, y Clwb Ffermwyr Ifanc a Chlwb Cadw’n Heini yn rheolaidd a gwneir defnydd iddi fel man i gynnal nosweithiau amrywiol ac achlysuron megis Te Pnawn i godi arian at elusennau a Ffeiriau Crefftau Nadoligaidd. Y Ganolfan yw’r safle ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau.

Mae’r Cyngor wedi prynu a gosod Diffibliwr ar fur allanol y Ganolfan yn ddiweddar ac un arall ar safle Peninsula Windows yn Star. Rhoddwyd tair mainc mewn tri safle i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Cyngor hefyd yn gweithio i geisio gwell defnydd a dyfodol i’r Elusendai nodedig sy’n perthyn i’r ardal. Rydym yn Gyngor bychan ond gweithgar.

Mae’r Cyngor Cymuned yn cyfarfod ar y dydd Mercher cyntaf y mis.

Mwy o luniau


Penmynydd is a village situated on the B5420 road between Menai Bridge and Llangefni. The Council serves the people of Penmynydd and the nearby village of Star. The village is notable for its Alms-houses, St Gredifael Church and its former Victorian Rectory, Neuadd Lwyd, and boasts panoramic views of Ynys Môn and the mountains of Snowdonia. Plas Penmynydd was the home of the Tudors of Penmynydd, the birthplace of the founders of the Tudor Dynasty. In the 14th century, a resident of Penmynydd, Tudur ap Goronwy, had five sons, one of whom was called Maredudd (the father of Owen Tudor – Tudor being the Anglicisation of his Welsh name, Owain ap Maredudd ap Tudur) who joined Henry V’s army and subsequently established himself at court. After Henry V died, his widow married Owen Tudor in secret around 1429 and they had three sons. Their grandson, Henry Tudor, subsequently claimed the crown of England on Bosworth Field leading to the Tudor Dynasty.

Penmynydd and Star is a small but close-knit community, with a population of just under 500. However, it is a lively and active community. The Council strives to serve the population by improving amenities and offer opportunities for the community to meet and thrive. The Council succeeded to save the hall (Penmynydd’s old school building) when it was the intention to close and sell the building. Now Canolfan Penmynydd is open again with its amenities being constantly upgraded. A new, modern kitchen was installed recently. An independent committee has been set up to run the Ganolfan and the use of the facility is on the increase. The meetings of the Gymdeithas, the Young Farmers and a Keep Fit class use the hall regularly. It is also used for Charity Afternoon Teas and Christmas Craft Fairs. It is also used as the area Polling Station.

The Council has recently bought and installed a Defibrillator outside the Ganolfan and has also placed one for the residents of Star on the Peninsula Windows building. Three benches have been provided around the parish to commemorate the Centenary of the First world War. At present, the council has entered negotiations regarding the future of the unique Alms-houses situated in Penmynydd. We are a small but diligent Council.

The Community Council meets on the first Wednesday of the month.

More images